Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

07 Hydref 2019

SL(5)444 – Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000, a daw i rym ar 6 Tachwedd 2019. Mae'n newid dyddiad arfaethedig etholiadau cyffredin nesaf cynghorwyr i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol, ac i gynghorau cymunedol yng Nghymru i ddydd Iau cyntaf mis Mai yn 2022, yn lle dydd Iau cyntaf mis Mai yn 2021. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r etholiadau llywodraeth leol nesaf yn digwydd yr un pryd ag etholiadau cyffredin nesaf y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ymhellach (yn Erthygl 4) bod cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru wedi ei estyn gan un flwyddyn yn unol â hynny.

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Gorchymyn (yn adran 4) yn nodi “…Wales Act 2017 amended the Representation of the People Act 1983 and prevents the local government elections being taken on the same day as the National Assembly general election. Where both elections are scheduled to take place on the same day the Welsh Ministers must, by order, specify another day on which the ordinary local government elections are to be held”.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dirymu Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014, a oedd yn darparu bod etholiadau cyffredin cynghorwyr i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymunedol yng Nghymru yn digwydd yn 2017 yn lle 2016.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Llywodraeth Leol 2000

Fe’u gwnaed ar: 17 Medi 2019

Fe’u gosodwyd ar: 20 Medi 2019

Yn dod i rym ar: 06 Tachwedd 2019

 

SL(5)447 – Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) 1978 o ran Cymru, a thri offeryn sy’n diwygio’r Rheoliadau hynny.

Drwy ddirymu Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) 1978 (a diwygio rheoliadau), bydd landlordiaid a thenantiaid yn gallu setlo hawliadau digollediad (a lywodraethir gan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986) gan ddefnyddio gwerthoedd cyfredol y farchnad a dulliau cyfrifo sy'n gweddu i'w hamgylchiadau unigol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Daliadau Amaethyddol 1986

Fe’u gwnaed ar: 24 Medi 2019

Fe’u gosodwyd ar: 26 Medi 2019

Yn dod i rym ar: 01 Tachwedd 2019

 

SL(5)445 – Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 fel y mae'n berthnasol o ran Cymru.

Mae adran 64 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn rhoi’r hawl i denant daliad amaethyddol, wrth i’r denantiaeth ddod i ben ac wrth iddo ymadael â’r daliad, gael digollediad oddi wrth y landlord am waith gwella a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 8 y mae’r tenant wedi ei gyflawni ar y daliad.

Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dileu paragraffau 5 a 6 cyfredol o Ran 1 o Atodlen 8 ac yn mewnosod paragraffau 4B a 5B newydd. Mae'r paragraffau newydd yn darparu ar gyfer talu digollediad am waith gwella o ganlyniad i ddodi deunyddiau gwella pridd, gweddillion treuliad anaerobig, tail a gwrtaith ar y tir (gyda dim cyfyngiadau o ran sut y caffaelir y sylweddau hynny); ac am waith gwella o ganlyniad i dail a gaiff ei storio ac sydd wedi deillio o fwyta, gan dda byw ac aelodau teulu’r ceffyl ar y daliad, rawn (a gynhyrchir ar y daliad ai peidio) neu fwyd anifeiliaid arall nas cynhyrchir ar y daliad.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Daliadau Amaethyddol 1986

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 24 Medi 2019

Yn dod i rym ar: 01 Tachwedd 2019